Tafarn Gymunedol Tremeirchion Cyf
Mae’r dafarn yn rhan hanfodol o unrhyw gymuned, ac o fewn pentref Tremeirchion cafodd y gymuned gyfle i brynu’r adeilad a’i dir.
Mynegodd cymuned Tremeirchion ynghyd â’r pentrefi cyfagos eu hawydd i gefnogi’r hwb cymunedol hwn y mae mawr ei angen.
Llwyddodd Tafarn Gymunedol Tremeirchion Cyfyngedig i godi cyfanswm o £195,800 drwy fuddsoddiadau cyfranddaliadau ym mis Gorffennaf 2023, ynghyd â llwyddo i ennill £175,000 fel grant cyfalaf gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Galluogodd hyn i brynu’r Salusbury Arms ac i ailagor fel Tafarn sy’n Berchnogaeth Gymunedol ar Awst 18fed 2023.
Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau yn adran Newyddion Diweddaraf y dudalen we hon, ond yn fwy rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol (Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Instagram a gweld tudalen we tafarndai yma: www.SalusburyArms.co.uk)
Diolch enfawr i bawb sydd wedi cyd-dynnu hyd yn hyn i achub ein tafarn! Mae'r prosiect hwn yn ei ddyddiau cynnar, a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar y daith gyffrous hon!












